Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 Senedd a
fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2022
Amser:
09.30 -
10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13136
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) Gruffydd Owen (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor - y rhaglen ddeddfwriaethol
1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil Bwyd (Cymru).
1.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
- ei ddull o graffu Cyfnod 1 a’i gylch gorchwyl drafft;
- yn amodol ar un ychwanegiad, rhestr y rhanddeiliaid i ymgynghori â nhw ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig;
- y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar;
- cyfnod ymgynghori o 6 wythnos.
2 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Esgyll Siarcod
2.1 Bu’r Aelodau’n trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod a chytunwyd y byddai adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei ddosbarthu mewn gohebiaeth i gytuno arno erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd sef 16 Ionawr.
3 Bil Amaeth (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft a chytuno arno
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad mewn egwyddor, yn amodol ar rai newidiadau i'w cytuno gan yr Aelodau mewn gohebiaeth y tu allan i’r Pwyllgor. Byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 27 Ionawr 2023.